Ymddangosodd Owain Rhys James ar rhan Comisynydd y Gymraeg yn achos R (Driver) v Cyngor Sir Bwysdrefol Rhondda Cynon Taf. Credir taw dyma’r tro cyntaf i’r Gymraeg gael ei ddefnyddio ger bron y Llys Apel.
Cyfarwyddwyd Owain ar rhan y Comisynydd drwy’r achos gan ymddangos ger bron yr Uchel Lys yn ddwy-ieithog. Yn y Llys Apel bu’i ddadl ysgrifennedig yn ddwy-ieithog tra i’w argymhellion ar lafar I fod yn uniaith Gymraeg (a cymorth cyfieithu ar y pryd).
Bu’r Llys Apel (Canghellor yr Uchel Lys, Sir Geoffrey Vosyn eistedd yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil a Theulu Caerdydd I glywed yr achos ar yr 8fed a 9fed o Rhagfyr.
Bu’r cais yn llwyddianus ar sail (1) bod angen i benderfynia parthed ad-drefnu addysg chweched dosbarth gail ei gyferirio at Weinidogion Cymru yn unol ag adran 50 o Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac (2) bod yna fethiant y gysidro factor spesifig, cynaliadwyedd ddarpariaeth cyfrwng (addysg) Cymraeg yn y rhwydwaith 14-19 lleol a'r ardal ehangach, neu’r gwaith i’w gwella, a hyrwyddo mynediad i'r cyrsiau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael mewn addysg ôl-16 yn unol a Cod Trefnidiaeth Ysgolion 2013. Mabwysiadwyd safbwynt niwtral gan y Comisiynydd.
Ger bron y Llys Apel fe wnaeth y Comisynydd argymhelliadau ar y broses a’r egwyddor sy’n addas pan yn dehonglu deddfwriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ceir mwy o wybodaeth am yr achos yn yr erthygl yma: https://www.localgovernmentlawyer.co.uk/education-law/343-education-feat...